Ydych chi’n ceisio cael eich plant i wneud rywfaint o waith ysgol gartref?
Yng Nghymru, mae’n rhaid i unrhyw un sy’n gweithio fel athro neu mewn rôl cymorth dysgu mewn ysgol a gynhelir neu goleg addysg bellach fod wedi cofrestru gyda CGA. Mae hyn yn berthnasol hefyd i’r rheiny sy’n gweithio ym maes gwaith ieuenctid a dysgu yn y gwaith ac nid ydynt ddim gwahanol i broffesiynau eraill fel meddygon, deintyddion, nyrsys, gweithwyr gofal cymdeithasol a chyfreithwyr, lle mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru cyn y gallwch weithio. Mae llawer o bobl yn gweithio yn y rolau addysg hyn yng Nghymru, tua 80,000 ohonynt a dweud y gwir.
Gydag ysgolion, colegau a lleoliadau addysgol eraill ar gau a llawer o arholiadau wedi’u canslo oherwydd COVID-19, rydym yn derbyn llawer o gwestiynau gan rieni, staff, cyflogwyr a’r cyhoedd, yn cynnwys:
- Pam nad yw’r ysgol yn ffrydio’r holl wersi ar You Tube yn fyw ar gyfer fy mhlentyn?
- A ddylai athro fy mhlentyn fod yn trafod gwaith ysgol gydag ef ar Facebook?
- A yw’n iawn i fy mhlentyn anfon negeseuon e‑bost at ei athro os yw’n ymwneud â stwff ysgol yn unig? Rwy’n pryderu na fydd fy mhlentyn yn cael y canlyniadau arholiadau y mae’n eu haeddu am fod yr arholiadau wedi’u canslo. Rwyf wedi clywed mai athrawon fydd yn penderfynu ar y graddau.
- Mae’r ysgol yn dal ar agor i nifer fach o ddisgyblion. A yw’r staff sy’n gweithio yno wedi cofrestru gyda chi gan fod rhai ohonynt yn newydd ac nid athrawon ydyn nhw?
Pan fyddwn yn derbyn yr ymholiadau hyn, fel arfer rydym yn dweud wrth yr unigolyn i godi’r ymholiad gyda’r ysgol, coleg (neu leoliad arall) yn gyntaf. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw ei bryder yn ymwneud â diogelu unigolyn ifanc. Dylai fod canllawiau i’r staff ar y materion hyn, ac mae pobl eraill fel Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu gwybodaeth fuddiol hefyd ar bynciau fel ffrydio’n fyw, ers yr achosion o COVID-19.
Mae cofrestru gyda CGA yn golygu bod rhaid i staff gydymffurfio â’n Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol. Mae’r Cod yn pennu’r safonau a ddisgwylir ganddynt a bwriedir iddo helpu ac arwain eu hymddygiadau a’u barnau, yn y gwaith a thu allan i’r gwaith. Hefyd, mae rôl bwysig i’r Cod i rieni hefyd gan ei fod yn amlinellu beth allwch chi ddisgwyl gan unrhyw un sy’n gweithio mewn addysgu a dysgu yng Nghymru. Gallwch ganfod mwy am y Cod mewn canllawiau y gwnaethom eu datblygu ar y cyd â Parentkind yn gynharach eleni.
Rydym wedi atgoffa staff fod Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA yn bwynt cyfeirio pwysig yn ystod y cyfnod hwn pan fo addysgu a dysgu yn digwydd mewn gwahanol ffyrdd ac amgylchiadau. Bydd hyn yn eu helpu i wneud y penderfyniadau iawn pan wynebant y mathau o heriau uchod. Rydym hefyd wedi cynhyrchu canllawiau “arfer da” sydd ar ein gwefan. Mae dau o’r pum canllaw yn canolbwyntio’n benodol ar y ddau destun cyfryngau cymdeithasol a’r heriau gydag arholiadau ac asesiadau; mae’r rhain yn themâu cyffredin iawn mewn cwestiynau a ofynnir i ni.
Mae mwyafrif helaeth ein cofrestreion yn deall y cyfrifoldeb personol a phroffesiynol sydd ganddynt fel delfryd ymddwyn a ffigur cyhoeddus. Fodd bynnag, fe’u cynghorwn, pe baent yn eu cael eu hunain mewn sefyllfa sy’n peri pryder, dylent ofyn am gyngor a chymorth mor gynnar ag y bo modd gan eu rheolwr llinell, undeb llafur, neu fan lleiaf, rhywun y maent yn ymddiried ynddo. Gall yr ymyrraeth gynnar honno fod yn amhrisiadwy yn aml.
Os oes gennych bryder fel rhiant, byddem yn eich cynghori i godi’r pryder hwnnw gyda’r ysgol, coleg (neu sefydliad addysgol arall). Fodd bynnag, mae ein canllaw ar y cyd i’r Cod (gyda Parentkind) yn darparu mwy o wybodaeth am beth arall gallwch ei wneud os ydych yn parhau’n bryderus.
Gwybodaeth ddefnyddiol i rieni:
- Cod Ymddygiad ac Ymarfer Proffesiynol CGA
- Canllaw CGA a Parentkind ar y cyd i’r Cod
- Wales Education
- Education begins at home
- Education Wales
- Education begins at home