Yn 2018, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad Cadernid Meddwl, a oedd yn trafod anghenion emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae Llywodraeth Cymru’n falch o gyhoeddi carreg filltir sylweddol yn ei hymateb i’r adroddiad Cadernid Meddwl, gydag ymgynghoriad ffurfiol ar ganllawiau ar ddatblygu ac ymwreiddio dull ysgol gyfan.
Yn awr yn fwy nag erioed, wrth inni ddechrau llacio’r cyfyngiadau a gyflwynwyd yn sgil pandemig Covid-19, ein prif flaenoriaeth yw gwarchod iechyd meddwl a lles emosiynol ein plant a'n pobl ifanc.
Mae’r canllawiau hyn yn ychwanegu at yr amrywiaeth o arferion da sydd eisoes ar waith yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol ledled Cymru, gan gefnogi ysgolion i adolygu eu sefyllfa lles eu hunain a datblygu cynlluniau i fynd i’r afael â’u gwendidau ac adeiladu ar eu cryfderau.
Wrth ddatblygu'r canllawiau, mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu ag amrywiaeth o bartneriaid ar draws y sectorau addysg, iechyd a'r trydydd sector.
Dyma gyfle nawr i’r gymuned ehangach wneud sylwadau. Byddem yn ddiolchgar i glywed barn rhieni a dysgwyr ar draws Cymru. Os hoffech drafod yr ymgynghoriad gyda’ch plentyn, mae fersiwn ar gael i bobl ifanc hefyd.
Cymerwch ran