Cwricwlwm dros Gymru — Cwestiwn ac Ateb gyda’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams
Er mwyn parhau cefnogi dysgu yn y cartref, byddai angen i rhieni yng Nghymru bod yn barod ar gyfer hyn os bod eu plant yn aros ym myd addysg wedi 2022 pan fydd y cwricwlwm newydd yn dechrau.
Mae yna lawer o wybodaeth ar gael arlein am y Cwricwlwm Draft i Gymru 2022. Mae tudalennau Llywodraeth Cymru yn cynnig trosolwg o’r Meysydd Dysgu a Phrofiad, Cynnigion Aesesu a’r fframwaith ynglwm a’r deliferi.
Y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn ateb cwestiynau rhieni
Rydym wedi rhoi pum cwestiwn i’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, sydd wedi ateb rhieni trwy gyfres o ffilmiau byrion, sydd hefyd ar gael yn y Gymraeg gydag isdeitlau.
1. Gofynnon ni; sut gall rhieni dderbyn mwy o wybodaeth am y newidiadau pellgyrhaeddol yma i addysg eu plant?
2. O fewn y ddogfen ‘Cynigion Asesiadau i gefnogi datblygiad canllawiau statudol’ mae’r cynigion asesiad yn nodi “dylai rhieni/gofalwyr hefyd cael y cyfle i fewnbynnu i’r broses adroddi er mwyn sicrhau gwell syniad o lwyddiannau’r dysgwr, y tu fewn a thu allan i’r ysgol” (tud15). Gofynnon ni: ymha ffordd y byddai rhieni yn medru dod yn rhan o’r broses adroddi?
3. Yn ein Harolwg Rhieni Blynyddol, dywedodd 62% o rieni mai’r cwricwlwm dylai fod yn y 3 uchaf o bethau y dylid ymgynghori gyda hwy — yn uwch na meysydd megis gwaith cartref neu bolisïau ymddygiad plant. Gofynnon ni: pa lefel o gyfranogiad credwch y dylai rhieni eu cael yn natblygiad cwricwlwm yn ysgol eu plant?
4. Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn cau ar y 19eg Gorffennaf 2019. Gofynnon ni: os bod rhieni gyda chwestiynau am y cwricwlwm draft, megis beth mae’r newidiadau yn ei feddwl yn ymarferol i’w plant, pwy allant hwy holi neu sut allant ddarganfod mwy cyn i’r ymgynghoriad gau?
5. Yn Parentkind rydym am gynnig cyfleoedd i rieni i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed. Byddem yn ymateb i’r ymgynghoriad gan gynnwys adborth o rieni yng Nghymru. Gofynnon ni: gall y cwestiynau’r ymgynghoriad fod yn heriol i nifer o rieni nad sy’n gweithio ym myd addysg, ac efallai na fyddent yn ymateb. Sut arall gall rhieni dweud eu barn am y cwricwlwm?
Os oes gennych gwestiynau pellach, e‑bostiwch ni [email protected] a gwnawn ein gorau glas i ateb eich ymholiadau.
Cadw ar flaen y gad gyda Chwricwlwm i Gymru
Mae cefnogi eich plentyn wrth iddyn nhw flodeuo trwy eu cyfnod yn yr ysgol, yn rhan arbennig iawn o fod yn rhiant, ond gall newidiadau mawr ymddangos yn frawychus. Dyna pam fydd Parentkind yn canfod barn rhieni am y newidiadau fel ein bod yn medru cyflwyno barn rhieni go iawn yn y broses ymgynghori. Byddwn yn postio mwy o wybodaeth am ffyrdd y medrwch gyfranogi a lleisio eich barn yn fuan.
Rhagor o wybodaeth
Gweler y Mae addysg yn newid wedi ei gyhoeddi gan y llywodraeth.
Os hoffech ddweud wrth y llywodraeth eich barn am y cwricwlwm, gallwch ymateb i’w ymgynghoriad sydd ar agor hyd Ddydd Gwener 19eg Gorffennaf. Byddwn yn eich diweddaru am gyfleoedd pellach i fynegi eich barn.